Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (175) |
Datganiad Y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd y cafodd Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014, Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 a Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 Gydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 10 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.02
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus - gohiriwyd
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adolygiad Annibynnol o Gydnerthedd Ffermio
Dechreuodd yr eitem am 15.11
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Trafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 15.50
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i newid y drefn y caiff gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) eu trafod
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM5414 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a)adrannau 2-76
b)atodlen 1
c)adrannau 77 -133
d)atodlen 2
e)adrannau 134-169
f)atodlen 3
g)adrannau 170 – 183
h)adran 1
i)Teitl Hir
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl: Adroddiad y Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 16.22
NDM5412 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu ar ddechrau’r cynnig ac ail-rifo yn unol â hynny:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a
2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r canlynol:
a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd;
b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny;
c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhelliad yr adroddiad i gychwyn y broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gresynu na roddwyd ystyriaeth lawn i uno'r gwasanaethau hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn Williams ond yn credu mai gweithredu Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy fyddai'r dull mwyaf priodol o ethol nifer llai o gynghorwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn Williams ac yn credu y dylai unrhyw ad-drefnu ar lywodraeth leol gynyddu atebolrwydd drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cynghorau, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Sunderland, ac fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
36 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5412 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a
2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r canlynol:
a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd;
b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny;
c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.
3. Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.
4. Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
5. Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Cafodd y cyfarfod ei ohirio a’i ail-gynnull am 17.20 ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 29 Ionawr 2014